Amdanom ni

Lluniwyd, adeiladwyd a chynhelir eeZeeTrip gan Arfon Software Ltd. Sefydlwyd y cwmni yn 2000, ac rydym ni wedi'n lleoli ger terfyn Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn cydweithio â chleientiaid ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Byddwn yn darparu meddalwedd, lletya mewn cwmwl a gwasanaethau ymgynghori i sefydliadau sy'n dymuno gwella cydweithio a rheoli data er mwyn dylanwadu'n ystyrlon ar addysgu a dysgu. Defnyddir ein gwasanaethau gan lawer o ysgolion, academïau, awdurdodau lleol, elusennau a busnesau.

Cysylltwch â ni