“Trwy glicio ychydig o weithiau, gall yr ysgol ofyn am daliadau a chaniatâd gan rieni, a gall rhieni ymateb i hynny. Mae Ap eeZeeTrip yn caniatáu i wybodaeth gael ei gyfnewid mewn amser real. Gall rhieni weld faint sydd angen iddynt ei dalu ac ni chollir anfonebau.”
“Mae eeZeeTrip yn caniatáu i ni arbed oriau o amser gwerthfawr staff a gallwn ni gynnig dewis ehangach o weithgareddau, gan greu incwm ychwanegol i'r ysgol.
Bellach, mae'r amser a arbedir trwy beidio gorfod llungopïo, canfod manylion cysylltu neu gadarnhau pwy sydd wedi anfon ffurflenni caniatâd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau fod y plant yn cael eu paratoi at eu profiad.”
“Rwyf i wrth fy modd ag eeZeeTrip - mae'n llawer iawn mwy hwylus na'r holl lythyrau ar bapur y byddem ni'n arfer eu derbyn. Gallaf i hefyd dalu am bethau yn syth o fy ffôn ac ni fydd rhaid i mi boeni am anfon arian i'r ysgol.”
“Beth sy'n gwneud eeZeeTrip ... yn well na'r gweddill yw eu syniadau arloesol, ond hefyd, ac yr un mor bwysig, eu parodrwydd i ymgysylltu ag ysgolion.”
“Mae'n system wirioneddol wych, ac mor hawdd ei defnyddio. Mae gallu ail-greu digwyddiadau tebyg a gwneud newidiadau bychan iddynt trwy bwyso botwm yn arbed cymaint o amser.”
“Fe wnaeth un o'r ysgolion dalu am ddefnyddio system arall, ond ymhen mis, roedd yn amlwg nad oedd y system yn ymarferol nac yn arbed amser. Bellach, maent yn defnyddio eeZeeTrip. Arferai delio â thaliadau beunyddiol yr ysgol fod yn waith beichus.”